2011 Rhif 1988 (Cy. 219)

PYSGODFEYDD MÔr, CYMRU

Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

 

Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn cymryd lle Is-ddeddf 5 (Trwydded i Bysgota am Gocos (Cerastoderma edule) a Chregyn Gleision (Mytilis edulis)) y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru blaenorol (“y Pwyllgor Pysgodfeydd  Môr”).

Diddymwyd y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr, o ran Cymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddiddymwyd Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”).

Mae Is-ddeddf  5 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr wedi cael effaith ers 1 Ebrill 2010 fel pe bai wedi ei gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol, yn rhinwedd erthygl 13(3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (“Gorchymyn 2010”) ac Atodlen 4 iddo.

Daw Is-ddeddf 5 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr i ben ar 31 Awst 2011, ac y mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn cymryd lle darpariaethau’r Is-ddeddf honno.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn, yn ddarostyngedig i eithriadau a ddatgenir, yn gwahardd pysgota am gocos a chregyn gleision o fewn yr ardal benodedig onid ymgymerir â’r gweithgaredd hwnnw yn unol â thrwydded a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd fod deiliaid trwydded, tra’n pysgota o fewn yr ardal benodedig, yn gallu dangos trwydded os gofynnir iddynt.

Yr ardal benodedig yw’r rhan honno o Gymru a oedd gynt yn ffurfio rhan o ddosbarth y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr.

Mae’r eithriadau i’r gwaharddiad a bennir yn erthygl 3 yn ymwneud ag unigolion sy’n cymryd â llaw, ddim mwy na 5kg o gocos a 5kg o gregyn gleision ar unrhyw un diwrnod, rhai sy’n cymryd cocos a chregyn gleision tra bônt ar fwrdd cwch pysgota Prydeinig cofrestredig a rhai sy’n cymryd cocos a chregyn gleision yn unol â Gorchymyn a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967.

Mae erthygl 4 yn darparu y bydd trwydded yn ddilys rhwng 1 Medi mewn un flwyddyn a 31 Awst yn y flwyddyn ddilynol.

Mae erthygl 5 yn darparu bod rhaid i gais am drwydded gael ei wneud i Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf, ac ynghyd â pha bynnag brawf adnabod a phrawf cyfeiriad, sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru. Mae’n darparu hefyd y caniateir gwneud ceisiadau o’r fath ar neu ar ôl 1 Gorffennaf yn y flwyddyn y bwriedir i’r drwydded y gwneir cais amdani gychwyn.

Mae erthygl 6 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi trwydded i unrhyw berson a oedd yn dal trwydded gyffelyb i bysgota am gocos a chregyn gleision yn yr ardal benodedig yn ystod y tymor yn union cyn tymor y drwydded y gwneir cais amdani. Mae’r erthygl hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi deugain o drwyddedau newydd bob blwyddyn i geiswyr nad oeddent yn dal trwydded gyffelyb i bysgota am gocos a chregyn gleision yn yr ardal benodedig yn ystod y tymor yn union cyn tymor y drwydded y gwneir cais amdani, ar yr amod bod y ceiswyr hynny’n ddeiliaid Tystysgrif Hyfforddiant Diogelwch Casglwyr Blaendraeth gyfredol a ddyroddwyd gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr.

Mae erthygl 7 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod amodau ar y drwydded. Mae’r erthygl hefyd yn darparu bod pob trwydded yn awdurdodi’r person a enwir, yn unig, i bysgota, ac na cheir trosglwyddo’r drwydded i neb arall.

Mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob deiliad trwydded yn cyflwyno manylion o’i ddaliadau, ar, neu cyn, y pumed diwrnod o’r mis sy’n dilyn y mis y cymerwyd y cocos a’r cregyn gleision o’r ardal benodedig.

Mae erthygl 9 yn dirymu Is-ddeddf 5 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr ac yn gwneud y diwygiad canlyniadol angenrheidiol yng Ngorchymyn 2010.

Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar gostau busnesau na’r sector gwirfoddol.


2011 Rhif 1988 (Cy. 219)

PYSGODFEYDD MÔr, CYMRU

Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011

Gwnaed                                   10 Awst 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       11 Awst 2011

Yn dod i rym                              1 Medi 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 189(1) a 316(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009([1]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011, a  daw i rym ar 1 Medi 2011.

(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;

ystyr “cocos” (“cockles”) yw unrhyw bysgod cregyn o’r math Cerastoderma edule;

ystyr “cregyn gleision” (“mussels”) yw unrhyw bysgod cregyn o’r math Mytilus edulis;

ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (British fishing boat) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995([2]) neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i fod yn berchnogion llongau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o'r Ddeddf honno;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006([3]);

ystyr “pysgod cregyn penodedig” (“specified shellfish”) yw cocos a chregyn gleision;

ystyr “trwydded” (“permit”) yw trwydded a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 6 o’r Gorchymyn hwn; ac

ystyr “Tystysgrif Hyfforddiant Diogelwch Casglwyr Blaendraeth” (“Foreshore Gatherers Safety Training Certificate”) yw dogfen a ddyroddwyd gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr, sy’n ardystio bod y ceisydd wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs hyfforddiant diogelwch ar gyfer pysgota rhynglanwol am bysgod cregyn.

Cyfyngiadau ar bysgota

3.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb bysgota am bysgod cregyn penodedig na chymryd pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig, oni wnânt hynny’n unol ag amodau trwydded.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson—

(a)     sy’n cymryd â llaw ddim mwy na phum cilogram mewn pwysau byw o gocos a phum cilogram mewn pwysau byw o gregyn gleision, ar unrhyw un diwrnod at ei ddefnydd personol;

(b)     sy’n cymryd y pysgod cregyn penodedig tra bo ar fwrdd cwch pysgota Prydeinig;

(c)     sy’n cymryd y pysgod cregyn penodedig yn unol â Gorchymyn a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967([4]).

(3) Rhaid i unrhyw berson sy’n pysgota am y pysgod cregyn penodedig neu sy’n cymryd y pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig ddangos copi o’i drwydded os gofynnir iddo wneud hynny gan berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru.

(4) Rhaid i unrhyw berson y gofynnwyd iddo ddangos trwydded yn unol â pharagraff (3) beidio â physgota am y pysgod cregyn penodedig, na chymryd y pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig, hyd nes bo’r drwydded honno wedi ei dangos.

Parhad trwydded, gwneud cais am drwydded a thelerau trwydded

4. Bydd trwydded yn ddilys o 1 Medi mewn un flwyddyn tan 31 Awst yn y flwyddyn ddilynol.

5.(1)(1) Rhaid i berson sy’n dymuno gwneud cais am drwydded gwblhau a chyflwyno cais i Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid i gais yn unol â pharagraff (1) gael ei gyflwyno ynghyd â pha bynnag brawf adnabod a phrawf cyfeiriad sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3) Ceir gwneud cais yn unol â pharagraff (1) ar, neu ar ôl, 1 Gorffennaf yn yr un flwyddyn ag y bwriedir i’r drwydded gychwyn.

6.(1)(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi trwydded—

(a)     i unrhyw berson a oedd yn ddeiliad trwydded i bysgota am y pysgod cregyn penodedig neu  i gymryd y pysgod cregyn penodedig yn yr ardal benodedig yn ystod y cyfnod o 1 Medi yn y flwyddyn flaenorol hyd at 31 Awst yn y flwyddyn y bydd y drwydded y gwneir cais amdani yn cychwyn; a

(b)     i ddeugain ceisydd sy’n ddeiliaid Tystysgrif Hyfforddiant Diogelwch Casglwyr Blaendraeth gyfredol.

(2)  Bydd ceisiadau am y trwyddedau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi yn unol ag is-baragraff (1)(b) yn cael eu hystyried yn y drefn gronolegol y deuant i law, a dyroddir y deugain trwydded hynny i’r deugain cyntaf o geiswyr pan fo’u cymhwystra i’w cael yn unol â’r is-baragraff hwnnw wedi ei gadarnhau.

7. Yn achos trwydded—

(a)     caiff gynnwys pa bynnag amodau mewn perthynas â physgota am y pysgod cregyn penodedig, neu gymryd y pysgod cregyn penodedig, ag a bennir gan Weinidogion Cymru;

(b)     mae’n awdurdodi’r deiliad trwydded hwnnw a enwir, yn unig, i bysgota am y pysgod cregyn penodedig, neu i gymryd y pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig; ac

(c)     nid yw’n drosglwyddadwy.

8.(1)(1) Rhaid i berson sy’n pysgota am bysgod cregyn penodedig, neu sy’n cymryd pysgod cregyn penodedig, o fewn yr ardal benodedig, gyflwyno manylion o’i ddaliadau i Weinidogion Cymru ar, neu cyn, y pumed diwrnod o’r mis calendr sy’n dilyn y mis y bu’n pysgota am y pysgod cregyn hynny neu’n eu cymryd.

(2) Rhaid i fanylion daliadau, at ddibenion paragraff  (1), gofnodi—

(a)     dyddiad pob daliad o bysgod cregyn penodedig;

(b)     cyfanswm pwysau byw yr holl gocos a gymerwyd ar y dyddiad hwnnw;

(c)     cyfanswm pwysau byw yr holl gregyn gleision a gymerwyd ar y dyddiad hwnnw;

(ch) y lleoliad y cymerwyd y pysgod cregyn penodedig ohono; a

(d)     pa bynnag wybodaeth bellach a fynnir gan Weinidogion Cymru ac yr hysbysir y deiliad trwydded ohoni o bryd i’w gilydd.

Dirymu a diwygio canlyniadol

9.(1)(1) Dirymir, mewn perthynas â Chymru, Is-ddeddf 5 (Trwydded i Bysgota am Gocos (Cerastoderma edule) a Chregyn Gleision (Mytilis edulis))([5]) y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru blaenorol([6]).

(2) Yn y Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010([7]), dileer y rhes sy’n ymwneud ag  Is-ddeddf 5.

 

 

Alun Davies

 

Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

 

10 Awst 2011

 

                      ATODLEN           Erthygl 2

YR ARDAL BENODEDIG

1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2, yr ardal benodedig yw’r gyfran o’r môr sydd o fewn chwe milltir forol i’r gwaelodlinau yng Nghymru ac o fewn y terfynau canlynol—

(a)   yn y gogledd, llinell a dynnir rhwng y cyfesurynnau yn aber Afon Dyfrdwy, a bennir yn Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999([8]); a

(b)  yn y de, llinell a dynnir i’r gogledd-orllewin cywir o eithafbwynt gogleddol Trwyn Cemaes yn sir Ceredigion.

2. Nid yw’r ardal benodedig yn ymestyn uwchlaw llinell a dynnir yng ngheg neu gerllaw ceg pob afon neu ffrwd sy’n llifo i’r môr neu i unrhyw aber, neu geg yr aberoedd, o fewn terfynau’r ardal benodedig fel a ganlyn—

(a)   llinell a dynnir ar draws afon Dyfrdwy (Dee) o Drwyn Hilbre i eithafbwynt gogledd-orllewinol Ynys Hilbre ym Mwrdeistref Fetropolitanaidd Cilgwri, ac oddi yno at y goleudy nas defnyddir mwyach yn y Parlwr Du yn Sir y Fflint;

(b)   llinell a dynnir ar draws afon Clwyd ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o’r bont sy’n cario ffordd yr A548 yn y Rhyl;

(c)   llinellau a dynnir ar draws afonydd Conwy ac Abergwyngregyn, ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o’r pontydd rheilffordd dros yr afonydd hynny, ger Conwy ac Abergwyngregyn yn eu trefn;

(ch) llinell a dynnir ar draws afon Seiont ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o’r bont sy’n cario ffordd yr A487 yng Nghaernarfon;

(d)   llinell a dynnir ar draws ceg Bae’r Foryd (afon Gwyrfai) o Dŷ Calch at y polyn fflag yn Fort Belan;

(dd) llinell a dynnir ar draws afon Cefni, ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o’r bont sy’n cario ffordd yr A4080 ym Malltraeth;

(e)   llinell a dynnir ar draws afon Soch ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o’r bont sy’n cario ffordd yr A499 yn Abersoch;

(f)   llinell a dynnir ar draws afon Erch, ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o bont y rheilffordd yn Harbwr Pwllheli;

(ff)  llinell a dynnir ar draws afon Rhyd-hir, ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o’r bont sy’n cario Ffordd-y-Còb ar ochr orllewinol Harbwr Pwllheli;

(g)   llinell a dynnir ar draws afon Glaslyn, ar hyd ochr y môr i’r còb ger Porthmadog;

(ng) llinellau a dynnir ar draws afonydd Dwyryd ac Artro, ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o’r pontydd rheilffordd dros yr afonydd hynny, ger Gorsafoedd Llandecwyn a Llanbedr a Phen-sarn, yn eu trefn.

(h)   llinellau a dynnir ar draws afonydd Ysgethin a Dysynni, ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o’r pontydd rheilffordd dros yr afonydd hynny, ger Tal-y-bont a Thonfannau, yn eu trefn;

(i)   llinell a dynnir ar draws afon Mawddach, o’r pwynt ar ei glan ogleddol lle mae ffrwd Cwm-llechen yn ymuno â hi ger y Bont-ddu, hyd at y pwynt ar y lan ddeheuol lle mae ffrwd Gwynant yn ymuno â hi;

(j)   llinell a dynnir ar draws afon Dyfi, o’r trwyn yn Nhrefri at ategwaith de-orllewinol pont y rheilffordd ar draws ffrwd Tre'r-ddôl (afon Cletwr);

(l)   llinell a dynnir ar draws afon Aeron, ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o’r bont sy’n cario ffordd yr A487 yn Aberaeron;

(ll)  llinell a dynnir ar draws afon Teifi, ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r môr o’r bont sy’n cario ffordd yr A487 yn Aberteifi; ac

(m) llinell a dynnir ar draws pob afon neu ffrwd nas enwir uchod, a’r llinell honno’n barhad o’r arfordir ar benllanw cymedrig y gorllanw.

 

 

 



([1]) 2009 p.23.

([2]) 1995 p.21.

([3]) 2006 p.32.

([4]) 1967 p.83.

([5])   O 1 Ebrill 2010 ymlaen, mae Is-ddeddf 5 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru blaenorol yn cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol, mewn perthynas â’r un ardal o Gymru ag yr oedd yr is-ddeddf honno’n gymwys iddi’n wreiddiol, yn rhinwedd erthygl 13(3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C.42)) ac Atodlen 4 i’r Gorchymyn hwnnw.  

([6])   Diddymwyd Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2010, wrth i erthygl 3 o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/630 (C. 42)) ddwyn i rym adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23), gyda’r effaith o ddiddymu Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p.38).

([7])   O.S. 2010/630 (C.42).

([8])   O.S. 1999/672.